Sut Mae Chwarae Loteri Cymru

Mae'r gêm yn gweithio fel loteri tanysgrifio. Er mwyn chwarae mae’n rhaid i chi gofrestru a llenwi ffurflen gais. Darparu manylion cysylltu a nodi sawl cynnig yr ydych eisiau ei brynu. Mae’n costio £1am bob cynnig ac mae’n rhaid i chi fod yn o leiaf 16 oed i gymryd rhan. Gallwch brynu cynigion Loteri Cymru drwy ddefnyddio cerdyn debyd/credyd neu gyda siec.

Yna byddwch yn derbyn cadarnhad o’r gêm gyntaf yr ydych yn cymryd rhan ynddi ac yn derbyn eich rhif gêm. Mae pob cynnig yn cynnwys rhif chwe digid unigrwy a gynhyrchir ar hap. Byddwch yn cadw’r un rhif gêm am cyn hired ag y byddwch yn aelod a byddwch yn parhau i dalu £1 yr wythnos am bob cynnig sydd gennych. Mae yna isafswm taliad o £13, a byddwch yn cael eich hysbysu pan fydd eich credyd yn dechrau mynd yn isel.

Gwobrau Loto a’r Ods o Ennill

Mae’r rhifau yn cael eu tynnu ar ddyddiau Gwener. Bydd rhif chwe digid buddugol yn cael ei gyhoeddi a byddwch yn ennil gwobrau yn ddibynnol ar faint o rifau yr ydych yn eu cyfateb yn y safleoedd cywir.

Os bydd eich rhif chwe digid yn cyfateb yn union i’r rhif buddugol, byddwch yn ennill y jacpot wythnosol o £25,000. Gallwch hefyd ennil gwobrau am gyfateb tri, pedwar neu bump digid yn y safleoedd cywir. Er enghraifft, os mai 123456 yw eich rhif, byddech yn derbyn gwobr os mai 173051 yw’r rhif buddugol, oherwydd byddech yn cyfateb tri digid yn y safleoedd cywir (1*3*5*).

Edrychwch ar y gwobrau a gynigir bob wythnos gan Loteri Cymru, ynghyd â’r ods o ennill:

Rhifau wedi’u Cyfateb (yn y safleoedd cywir) Gwobr Ods o Ennill
Cyfateb 6 £25,000 1 mewn 1,000,000
Cyfateb 5 £1,000 1 mewn 18,518
Cyfateb 4 £25 1 mewn 823
Cyfateb 3 5 cynnig ar gyfer y gêm nesaf 1 mewn 69

Gwiriwch y dudalen Calyniadau yn fuan ar ôl i’rrhifau gael eu tynnu er mwyn gweld a ydych wedi ennill gwobr Loteri Cymru.

Bydd yr enillion yn cael eu talu’n uniongyrchol i chi os byddwch yn ennill. Byddwch yn derbyn siec am y wobr, fydd yn cael ei hanfon i chi yn y post.