Loteri Cymru
Lansiwyd Loteri Cymru gyda’r nod o gynnig jacpot o £25,000 bob wythnos yn ogystal a chodi miliynau o bunnau i achosion da ar hyd a lled y wlad.
Canlyniad Diweddaraf
- 0
- 2
- 9
- 1
- 0
- 6
Tynnu Rhifau Loteri Cymru
Bydd y rhifau’n cael eu tynnu bob dydd Gwener. Mae chwaraewyr Loteri Cymru yn cael rhif chwe digid ar hap a gallant ennill gwobrau am gyfateb o leiaf tri o’r rhifau yn yr un drefn â’u tynnir. Cymerwch gip ar y canlyniadau diweddaraf i weld a ydych wedi ennill.
Loteri Gymdeithasol
Mae Loteri Cymru yn loteri gymdethasol ac mae’n cael ei chynnal er mwyn helpu prosictau elusennol ar draws Cymru. Fe’i sefydlwyd ar y cychwyn yn Ebrill 2017 gyda’r addewid o roi grantiau o hyd at £10,000 i elusennau yng Nghymru, allai wneud cais drwy’r corff elusennol Hanford Cymru. Yn ddiweddarach daeth gweithredwr newydd, Sterling Management Centre, i weithredu’r loteri, ac mae’n parhau i gefnogi prosiectau teilwng. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y dudalen Achosion Da.