Cwestiynau Cyffredin Loteri Cymru

Dyma rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin a ofynir ynghylch Loteri Cymru.

  1. Faint yw pris tocyn?
  2. Ym mhle alla i brynu tocynnau Loteri Cymru?
  3. Beth yw’r isafswm oedran er mwyn gallu chwarae?
  4. Pryd y tynnir y rhifau?
  5. Pryd y tynnwyd rhifau cyntaf Loteri Cymru?
  6. Pryd ail-lansiwyd y gêm?
  7. Pa wobrau allaf eu hennill?
  8. A oes uchafswm jacpot neu gyfyngiad ar y swm a dreiglir?
  9. Faint o arian fy nhocyn sy’n mynd at achosion da?

Atebion


1. Faint yw pris tocyn?

Mae pob cynnig yn costio £1. Oherwydd bod y gêm yn gweithio drwy danysgrifio, mae yna leiafswm taliad o £13. Os ydych eisiau dim ond un cynnig yn unig ym mhob gêm, bydd hynny yn talu i chi gymryd rhan am 13 wythnos.

I’r Brig

2. Ym mhle alla i brynu tocynnau Loteri Cymru?

Bydd angen i chi lewni ffurflen gais a chofretru i chwarae Loteri Cymru. Mae tocynnau gael ar-lein cyn bod y rhifau’n cael eu tynnu bob wythnos.

I’r Brig

3. Beth yw’r isafswm oedran er mwyn gallu chwarae?

Yr isafswm oedran ar gyfer prynu tocynnau yw 16.

I’r Brig

4. Pryd y tynnir y rhifau?

Bydd y rhifau’n cael eu tynnu bob dydd Gwener.

I’r Brig

5. Pryd y tynnwyd rhifau cyntaf Loteri Cymru?

Aeth tocynnau Loteri Cymru ar werth am Ddydd Llun Ebrill 10, a thynnwyd y rhifau cyntaf ar ddydd Gwener Ebrill 28.

I’r Brig

6. Pryd ail-lansiwyd y gêm?

Na allwch, dim ond drwy chwarae’r loto ar ryw adeg yn ystod y mis perthnasol y gallwch gymryd rhan yn raffl fisol loto+.

I’r Brig

7. Pa wobrau allaf eu hennill?

Mae yna bedair haen o wobrau loto bob wythnos, ac mae jacpot o £25,000 ar gael yn wythnosol. Gallwch hefyd ennill un o ddeg gwobr gwarantiedig o £1,000 yn y raffl loto+ misol. Gweler y dudalen Sut mae Chwarae i gael mwy o wybodaeth.

I’r Brig

8. A oes uchafswm jacpot neu gyfyngiad ar y swm a dreiglir?

Swm penodol o £25,000 yw jacpot Loteri Cymru bob wythnos. Dyma’r uchafswm a ganiateir o dan y rheolau sy’n rheoli lotriau cymdeithasol. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y dudalen Achosion Da page.

I’r Brig

9. Faint o arian fy nhocyn sy’n mynd at achosion da?

Mae lleiafswm o 20 y cant o’r arian a dderbynir o werthiant tocynnau yn cael ei ddosbarthu i sefydliadau elusennol yng Nghymru.

I’r Brig