Achosion Da Loteri Cymru

Mae Loteri Cymru yn loteri gymdeithasol ddielw, a sefydlwyd gyada’r amcan o godi £5 miliwn tuag at achosion teilwng ar hyd a lled Cymru yn ystod pum mlynedd cyntaf ei bodolaeth.

Loteri Gymdeithasol

Mae lotriau cymdeithasol yn cael eu rheoleiddio gan Gomisiwn Hapchwarae y DU ac fe’u dyluniwyd i gael eu cynnal yn ddielw, gan godi arian i’r sector anfasnachol, ac yn benodol i achosion da. Gall yr achosion da yma fod yn elusennau, yn gysylltiedig â chwaraeon, diwylliant ne unrhyw beth arall nad yw’n arwain at elw preifat.

O dan reolau loteri gymdeithasol, ni all jacpot Loteri Cymru fod yn fwy na £25,000.

Sut mae Loteri Cymru yn Ariannu Achosion Da?

Mae o leiaf 20 y cant o’r arian a dderbynnir o werthu tocynnau yn cael ei neilltuo er mwyn cael ei ddosbarthu i gynlluniau yng Nghymru. Ystyriwyd bod yr arian y gallai’r loteri ei ddarparu yn allweddol pan gafodd ei lansio gyntaf. Ar yr adeg, dywedodd Marc Philips, prif weithredwr dros dro cangen elusennol y loteri, Hanford Cymru, bod prosiectau yng Nghymru yn ‘draddodiadol ddim yn cael digon o gefnogaeth’ gan gyrff cenedlaethol sydd yn gyfrifol am roi arian grant.

Bu i Loteri Cymru roi dros £120,000 at achosion da mewn llai na blwyddyn, cyn iddo orfod rhoi’r gorau i weithredu am gyfnod byr oherwydd nad oedd yn ariannol hyfyw. Camodd Sterling Management Centre Limited i’r adwy i ddechrau gweinyddu’r loteri, a chyhoeddodd y byddai yn partneru â’r Ymddiriedolaeth Elusennau er mwyn sicrhau y byddai’r un gyfran o’r enillion yn parhau i gael ei roi i brosiectau teilwng.

Mae Sterling Lotteries mewn trafodaethau â gwahanol grwpiau ac yn cynllunio i newid y buddiolwyr ymhen amser fel bod cmaint o elusennau â phosibl yn elwa. Mae’r gweithredwyr hefyd yn archwlio ffyrdd o roi cyfle i chwaraewyr loteri enwebu pa grwpiau fydd yn derbyn arian.

I gael gwybod sut allwch gymryd rhan ac ychwanegu at gronfa elusennol y loteri, ewch i’r dudalen Sut mae Chwarae.